Mae hanner gyrwyr ceir Prydain yn credu ei bod yn dderbyniol i oryrru, yn ôl ffigyrau diweddara’.

Yn ôl yr arolwg o 2,000 o bobol wnaed gan y cwmni yswiriant, Direct Line Car Insurance, car gyfartaledd mae gyrwyr yn tueddu i wneud 27mph mewn ardal 20mph, a 79mph ar draffordd.

Hefyd mae tri o bob pedwar gyrrwr (78%) yn fodlon cyfaddef goryrru, gyda 5% o’r rhain yn goryrru ar bob taith y maen nhw’n ei gwneud.

Wrth ofyn pam bod nhw’n torri’r terfyn cyflymder, dywedodd 51% nad oedden nhw’n sylweddoli eu bod nhw’n torri’r gyfraith, tra bo traean (34%) yn goryrru pan fo’r ffordd yn dawel.

Roedd 19% wedyn yn dweud eu bod nhw’n goryrru oherwydd eu bod nhw’n hwyr, ac 14% oherwydd nad oedd yna gamerâu ar hyd y lle.

Goryrru yn lladd

Yn ôl llefarydd ar ran cwmni Direct Line, mae goryrru yn un o’r achosion mwyaf o ddamweiniau ar y ffyrdd, gyda 229 wedi cae eu lladd ar ffyrdd gwledydd Prydain yn 2016.

“Mae’r ymchwil yn dangos nad yw [goryrru] bob amser yn fwriadol, wrth i yrwyr fynd y tu hwnt i’r terfyn cyflymder heb sylwi,” meddai.

“Ond mae terfynau cyflymder yn cael eu gosod am reswm, ac mae ardaloedd 20mph a 30mph gan amlaf o gwmpas ysgolion, ysbytai a mannau poblog, lle bo mynd dros y cyflymder yn gallu bod yn angheuol mewn damwain.”