Mae arbenigwyr wedi rhybuddio ei bod yn bosib bod olion “peryglus” o’r nwy nerfol, novichok, fod yn bresennol o hyd mewn rhai mannau yn Salisbury.

Fe gafodd y sylwedd ei ddefnyddio i wenwyno’r cyn-ysbïwr o Rwsia, Sergei Skripal, a’i ferch, Yulia, ddechrau’r mis diwethaf, ac mae arbenigwyr wedi cadarnhau bod y nwy wedi cael ei drosglwyddo ar “ffurf hylifol”.

Mae gwaith glanhau yn parhau mewn naw lleoliad ledled y ddinas lle mae arbenigwyr yn credu bod y sylwedd yn dal i fod yn bresennol, ac mae’n debygol y bydd y gwaith yn parhau am fisoedd.

Mewn cynhadledd i’r wasg neithiwr, fe ddywedodd swyddogion Defra fod rhaid iddyn nhw ragdybio bod olion o’r nwy nerfol yn dal i fod ar yr un lefel “beryglus” ag yr oedd ar ddiwrnod yr ymosodiad ar Fawrth 4.

Ond maen nhw’n mynnu bod y lefelau uchel yn y mannau hynny sy’n cael ei archwilio ganddyn nhw, gan fod lefelau tebyg eisoes wedi’u canfod yno.

Y cefndir

Cafodd Sergei Skripal a’i ferch, Yulia, eu canfod yn anymwybodol ar fainc yn y ddinas ar 4 Mawrth.

Mae Yulia Skripal eisoes wedi gadael yr ysbyty, ac mae ei thad yn parhau i dderbyn triniaeth feddygol.