Mae dyn o wledydd Prydain wedi pledio’n ddieuog i ymosod ar chwaraewr rygbi yn Awstralia.

Mae Sam Oliver, 22 oed, wedi’i gyhuddo o daro James Stannard yn dilyn ffrae y tu allan i siop cebab yn Sydney yn ystod oriau mân y bore, Mawrth 30.

Ar ôl cael ei daro, fe syrthiodd y dyn 35 oed i’r llawr, gan daro ei ben yn erbyn y pafin a niweidio ei ben.

Roedd ei anaf yn golygu nad oedd yn gallu cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad ar yr Arfordir Aur, lle roedd disgwyl iddo gapteinio Tîm Awstralia yn y rygbi saith-bob-ochr.

Fe ymddangosodd Sam Oliver, a oedd ar ei wyliau yn y wlad yn ystod yr ymosodiad, o flaen Llys Lleol Waverley ddoe (dydd Mercher, Ebrill 18), lle plediodd yn ddieuog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol.

Fe fydd yr achos yn parhau ar Fehefin 6.