Mae dau berson o bob pump, yn gweithio mwy o oriau nag sy’n rhaid, yn ôl astudiaeth newydd.
Mae’r ymchwil gan wefan totaljobs yn dangos mai athrawon, cyfrifyddion, staff adnoddau dynol â phobol sy’n gweithio â chyfrifiaduron, sy’n gwneud hyn yn bennaf.
Ac mae’n debyg bod gweithwyr ifanc yn fwy tebygol o orweithio, gyda mwyafrif o bobol rhwng 18 a 34 oed yn ofni gadael ar amser rhag cael ymateb negyddol gan eu cyflogwr.
Yn ogystal, mae’r astudiaeth yn nodi bod y cyflogwyr yn annog y diwylliant yma, gyda thraean yn cyfaddef bod staff sy’n gadael ar amser yn ennyn llai o barch.
Diwylliant gwaith
“Mae’r diwylliant o adael gwaith yn hwyr wedi dod yn rhan gynhenid o ddiwylliant cwmnïau Prydeinig,” meddai Martin Talbot, Cyfarwyddwr Marchnata o totaljobs.
“Ond, dydy gweithio am hirach ddim o reidrwydd yn golygu bod rhagor yn cael ei gyflawni.
“Ac, mae ein hymchwil yn dangos bod traean o gyflogwyr yn credu bod gweithio am lai o amser yn gwneud y gweithlu’n fwy cynhyrchiol.”
Cafodd 1,000 o weithwyr, a 250 o gyflogwyr, eu holi ar gyfer yr astudiaeth.