Mae’r BBC wedi cyhoeddi y byddan nhw’n darlledu cyfres ddogfen newydd y flwyddyn nesaf i nodi 40 mlynedd ers i Margaret Thatcher ddod yn Brif Weinidog Prydain.

Bydd y gyfres mewn pum rhan yn dadansoddi ei gyrfa, ac mae’n cael ei disgrifio fel “stori ddiffiniol Margaret Thatcher a’r cyfnod pan wnaeth hi ddominyddu gwleidyddiaeth a chymdeithas”.

Bydd y gyfres ar BBC2 hefyd yn edrych ar hanes cymdeithasol gwledydd Prydain.

Dywedodd rheolwr BBC2, Patrick Holland fod “Margaret Thatcher wedi diffinio’i hoes fel yr un arweinydd arall ers y rhyfel”.

Meddai cyfarwyddwr creadigol y sianel, Aysha Rafaele: “Licio neu beidio, rydym oll yn byw mewn byd a gafodd ei greu gan Margaret Thatcher.”

Fe fydd y gyfres yn cynnwys cyfweliadau â gwleidyddion, ffrindiau a gwrthwynebwyr, yn ogystal â deunydd fideo o’r archifau.