Mae dyn 18 oed wedi ymddangos yn y llys, wedi’i gyhuddo o saethu dyn 34 oed yn farw mewn gorsaf betrol yn Swydd Essex.

Cafodd Bradley Blundell ei estraddodi o’r Iseldiroedd ar ôl ffoi yno a mynd o’i wirfodd at yr heddlu yn Amsterdam.

Yn Llys y Goron Chelmsford, mae wedi’i gyhuddo o saethu John Pordage yn farw ar Awst 5 y llynedd.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o fod â dryll yn ei feddiant gyda’r bwriad o beryglu bywyd, ac o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac o fod â nwyddau yn ei feddiant oedd wedi cael eu dwyn.

Dyw e ddim wedi cyflwyno ple, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf yfory (dydd Iau).