Mi fydd ail ddadl frys yn cael ei chynnal yn San Steffan heddiw i alw am sicrwydd y bydd Tŷ’r Cyffredin yn cael pleidleisio ar ymosodiadau milwrol yn y dyfodol.
Yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, sydd wedi llwyddo i alw’r ddadl gan ddilyn chwech awr o drafod ddoe pan oedd y pwyslais yn benna’ ar y penderfyniad ei hun – i ymuno gyda’r Unol Daleithiau a Ffrainc i fomio targedau yn Syria.
Y disgwyl yw y bydd y gwrthbleidiau a rhai Ceidwadwyr yn uno heddiw i ddweud y dylai Aelodau Seneddol fod wedi cael pleidlais cyn y bomio.
Fe fydd cefnogwyr y Prif Weinidog yn dweud bod rhaid cadw hyblygrwydd a’r gallu i daro’n gyflym ac annisgwyl.
Datganiad Theresa May
Ar ôl datganiad ac ateb cwestiynau am dair awr ddoe, fe gafodd y Prif Weinidog, Theresa May, gefnogaeth ei phlaid ei hun a nifer o ASau Llafur hefyd.
Dywedodd ei bod wedi cymryd y penderfyniad i weithredu ddiwedd yr wythnos ddiwethaf oherwydd bod pob llwybr diplomyddol wedi methu, a bod y defnydd o arfau cemegol yn gosod y digwyddiadau hyn “ar wahân”.
Ymateb Jeremy Corbyn
Yn ôl y disgwyl, fe gododd Jeremy Corbyn nifer o gwestiynau am yr ymosodiad, gan barhau i alw am gyfraith newydd a fydd yn ei gwneud yn orfodol i gael cefnogaeth Tŷ’r Cyffredin cyn gweithredu’n filwrol.
Ychwanegodd y dylai Theresa May fod yn atebol i aelodau seneddol, ac nid i “fympwyon” Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump.
Fe fydd yr ail ddadl frys yn cael ei chynnal yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn heddiw.