Mae rhieni’r plentyn bach, Alfie Evans, yn gwneud ymdrech arall i geisio cael yr hawl i fynd ag ef i Ewrop ar gyfer rhagor o driniaeth.

Maen nhw’n apelio hyn erbyn penderfyniad barnwr yr wythnos ddiwetha’ i gefnogi safbwynt meddygon yn Ysbyty Alder Hey, Lerpwl, sy’n dweud y dylai’r driniaeth ddod i be,.

Dyma’r cam diweddara’ mewn cyfres o achosion, gyda’r rhieni Tom Evans, 21, a Kate James, 20, eisoes wedi cyflwyno eu hachos gerbron yr Uchel Lys, Llys Apêl, Llys Goruchaf a Llys Hawliau Dynol Ewrop.

Barn y meddygon yw nad oes gobaith i Alfie wella ac roedd y barnwr hefyd wedi gwrthod yr awgrym fod y plentyn 23 mis oed yn cael ei ddal yn anghyfreithlon yn yr ysbyty.

Mae’r baban yn parhau i dderbyn triniaeth o leia’ hyd at ddyfarniad y llys apêl.