Mae bachgen 16 oed wedi ymddangos mewn llys wedi’i gyhuddo o lofruddio a threisio merch 14 oed.

Dim ond ychydig funudau oedd yr achos cychwynnol yn Llys Ynadon Dudley yng nghanolbarth Lloegr a’r cyfan wnaeth y bachgen oedd cadarnhau ei enw a’i gyfeiriad.

Oherwydd ei oed, dyw ei enw ddim yn cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa mewn canolfan gadw i bobol ifanc nes y bydd gwrandawiad arall yn Wolverhampton.

Roedd llanc 17 oed wedi cael ei holi gan yr heddlu hefyd – mae wedi cael ei ollwng yn rhydd ar hyn o bryd ar fechnïaeth.

‘Yr angel fach’

Roedd Victorja Sokolova wedi mynd ar goll ddydd Mercher ac fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff fore dydd Iau.

Yn ôl Heddlu’r West Midlands, roedd wedi marw ar ôl cael ei tharo gydag arf llym.

Mae ei theulu, sy’n dod o Lithwania’n wreiddiol, wedi ei galw yn “angel fach” a dweud mai hi oedd yn rhoi “lliw ac ystyr” i’w bywydau.