Mae’r dadlau’n cynyddu cyn i Brif Weinidog Prydain fynd i Dŷ’r Cyffredin i geisio cyfiawnhau rhan y lluoedd arfog yn yr ymosodiadau ar Syria.

Dyna oedd y penderfyniad iawn “i’r Deyrnas Unedig ac i’r byd”, yn ôl yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wrth weinidogion tramor eraill yr Undeb Ewropeaidd.

Ond fe ddywedodd arglwyddes Lafur ac ymgyrchydd hawliau sifil nad oedd hi’n iawn o dan gyfraith ryngwladol i ddefnyddio trais i gosbi Syria am gamymddwyn.

Ac mae’r Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol wedi gwrthod galwad gan yr arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, am ddeddf newydd i sicrhau bod rhaid i’r Senedd bednerfynu ar weithredu milwrol.

Be maen nhw’n ei ddweud

  • Doedd yr ymosodiadau ddim yn ymgais i newid cwrs y rhyfel cartref yn Syria, meddai Boris Johnson, ond roedd yn ffordd o ddangos “ein bod wedi cael digon o ddefnydd o arfau cemegol.
  • Roedd angen defnyddio grym brys, angenrheidiol a chymesur, meddai’r Arglwyddes Shami Chakrabarti, “a rhaid gwneud hynny gydag ewyllys y byd y tu cefn i chi”.
  • Fe fyddai derbyn galwad Jeremy Corbyn yn golygu gorfod rhoi gormoe o wybodaeth i ASau, meddai Penny Mordaunt, yr Ysgrifennydd Datblygu … “ac mi fyddai hynny’n wallgo”/.
  • Y disgwyl yw y bydd Theresa May ei hun yn dweud wrth Dŷ’r Cyffredin bod cefnogaeth ryngwladol eang i’r gweithredu, pan ymosododd Yr Unol Daleithiau, Ffrainc a gwledydd Prydain ar safleoedd Llywodraeth Syria, gan ddweud mai safleoedd ar gyfer arfau cemegol oedden nhw.