Fe fydd un o ddiddanwyr mwya’ poblogaidd gwledydd Prydain yn y llys heddiw ar gyhuddiad o yfed a gyrru.

Mae Ant McPartlin – un hanner o ddeuawd Ant a Dec – wedi cael ei gyhuddo ar ôl damwain yn Richmond yng ngorllewin Llundain ganol mis Mawrth.

Roedd yn gyrru ei gar mini ar y pryd pan fu gwrthdrawiad gyda dau gar arall ac fe gafodd ei arestio a’i gyhuddo’n ddiweddarach o fod â mwy na’r lefel gyfreithiol o alcohol yn ei waed.

Gohirio

Roedd yr achos wedi’i drefnu’n wreiddiol ar gyfer Ebrill 4 ond fe gafodd ei ohirio.

Dyw Ant McPartlin, 42, ddim wedi gwneud gwaith teledu ers y digwyddiad, er fod rhaglen wedi ei recordio ymlaen llaw wedi’i darlledu dros y Sul.