Mae Jeremy Corbyn wedi galw am gael gweld rhagor o dystiolaeth nad oes modd ei gwrthbrofi cyn ei fod yn fodlon beio Rwsia am yr achos o wenwyno yn Salisbury.

Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi galw hefyd am gryfhau grym y Sefydliad Atal Arfau Cemegol wrth ymchwilio i achosion o’r fath.

Ar Fawrth 4, cafodd y cyn-ysbïwr Sergei Skripal a’i ferch Yulia eu gwenwyno â nwy nerfol Novichok.

Ond mae Jeremy Corbyn wedi dweud wrth raglen Andrew Marr y BBC nad yw e wedi gweld digon o dystiolaeth i allu dweud yn sicr mai Rwsia oedd yn gyfrifol.

“Dw i eisiau gweld tystiolaeth na ellir ei gwrthbrofi,” meddai.

“Os ydyn ni’n mynd i wneud honiad clir iawn, iawn fel hynny, rhaid bod gennym dystiolaeth absoliwt er mwyn gwneud hynny.”