Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar ôl anafu nifer o bobol wrth yrru atyn nhw yn Blackpool.

Mae tri o bobol yn derbyn triniaeth yn dilyn y digwyddiad am 11.5o nos Sadwrn, ond dydy eu bywydau ddim mewn perygl.

Mae’r dyn o Orllewin Swydd Efrog wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, o yrru dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau ac o achos niwed difrifol bwriadol.

Dydy’r heddlu ddim yn trin y digwyddiad fel achos o frawychiaeth.