Mae Plaid Cymru wedi beirniadu’r ymosodiad yr wythnos ddiwethaf sydd wedi arwain at gyrchoedd awyr gan yr Unol Daleithiau, Prydain a Ffrainc, ond maen nhw’n galw am ymateb rhyngwladol i ddatrys y sefyllfa.

Cafodd o leiaf 70 o bobol eu lladd yn Douma wythnos yn ôl, ond mae’r Blaid yn rhybuddio na fydd y sefyllfa’n cael ei datrys hyd nes y bydd y gymuned ryngwladol yn dod i “gytundeb priodol ar ddiddymu a dod â’r rhyfel cartref i ben”.

Roedd Plaid Cymru wedi condemnio digwyddiad tebyg i’r ymosodiad cemegol y llynedd, gan alw am “ddatblygu a gweithredu proses heddwch gynhwysfawr, sydd yn gofyn am gydweithrediad gwledydd fel yr Unol Daleithiau a Rwsia, a gwledydd eraill sydd wedi ymyrryd yn Syria”.

Yn ôl Plaid Cymru, mae’r neges yn y datganiad hwnnw’r un mor berthnasol heddiw, gan ychwanegu y bydd “yr erchylltra yn parhau nes i’r ddau rym mwyaf sydd wedi ymyrryd yn y gwrthdaro gytuno i weithio gyda’i gilydd i ddod â’r trais i ben”.

‘Dim gobaith’

Mae Plaid Cymru hefyd yn rhybuddio na fydd modd dod â’r sefyllfa i ben yn y modd priodol oherwydd “natur aml-wynebog y rhyfel cartref”, sy’n golygu na all “un ochr gipio buddugoliaeth gyflawn”.

Ychwanega’r Blaid: “Mae hyn yn golygu bod angen setliad heddwch rhyngwladol wedi ei oruchwylio gan y Cenhedloedd Unedig.”

Maen nhw’n galw ar i Lywodraeth Prydain gymryd rôl diplomyddol yn y ffrae i “gyfrannu at sicrhau heddwch parhaol a chaniatáu gofod i bobol Syria gymodi”.

Byddai hynny’n golygu cynnal dadl a phleidlais, meddai, a rhoi ystyriaeth i Gwrdiaid Rojava a’u hawliau ac i ffoaduriaid o Syria sy’n “haeddu cefnogaeth ddyngarol a chymorth y cenhedloedd hynny sydd yn elwa o fywydau heddychlon a diogel”.