“Rhybudd i Rwsia” oedd y cyrchoedd awyr tros Syria, yn ôl Prif Weinidog Prydain, Theresa May, sy’n mynnu mai gweithredu’n filwrol oedd y “peth cywir i’w wneud”.

Mae Prydain wedi ymuno â’r Unol Daleithiau a Ffrainc wrth gynnal y cyrchoedd ar rai o ganolfannau arfau cemegol Syria yn dilyn ymosodiad ar Douma wythnos yn ôl.

Dywedodd Theresa May fod y cyrchoedd awyr yn “gyfreithlon”, ac mae hi wedi amddiffyn ei phenderfyniad i fwrw ymlaen heb sêl bendith y Senedd, a hynny ar ôl i’r Democratiaid Rhyddfrydol ei chyhuddo hi o gael ei dylanwadu gan “arlywydd eratig yr Unol Daleithiau”.

Mae Llafur wedi ei chyhuddo hi o “dderbyn cyfarwyddyd” gan Washington.

Mae hi’n mynnu ei bod hi wedi cael cyngor gan y Twrnai Cyffredinol, yr Ymgynghorydd Diogelwch Cenedlaethol a phenaethiaid y lluoedd arfog ddydd Iau.

Ond mae hi’n gwadu mai ymgais i esgor ar newid yn Llywodraeth Syria a gwaredu’r Arlywydd Bashar Assad oedd y cyrchoedd.

‘Normaleiddio’

Mewn datganiad yn Downing Street, dywedodd Theresa May: “Ni allwn ganiatáu i’r defnydd o arfau cemegol gael ei normaleiddio – naill ai o fewn Syria neu ar strydoedd y DU neu yn rhywle arall.”

Mae Rwsia’n bwriadu galw cyfarfod brys o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, yn ôl arlywydd y wlad, Vladimir Putin.

Dywedodd fod y cyrchoedd yn “weithred ymosodol” a fyddai’n cael dylanwad “dinistriol” ar berthnasau rhyngwladol.

Ychwanegodd Theresa May: “Roedd y weithred a ddigwyddodd neithiwr yn weithred oedd yn canolbwyntio ar israddio ac atal gallu gweithredol a pharodrwydd cyfundrefn Syria i barhau i ddefnyddio arfau cemegol.

“Bu nifer o achosion lle rydyn ni wedi eu gweld nhw’n defnyddio’r arfau cemegol hynny.

“Ond rwy’n credu y dylai fod yn neges i eraill na fydd y gymuned ryngwladol yn camu’n ôl a galluogi arfau cemegol i gael eu defnyddio heb eu cosbi.”

Mae disgwyl i arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn alw ar Lywodraeth Prydain i gyhoeddi’r cyngor cyfreithiol gawson nhw cyn gweithredu – mae disgwyl cyhoeddiad ynghylch y cyngor yn ddiweddarach.