Er i lys eu cael yn ddieuog o dreisio’n ddiweddar, mae dau o chwaraewyr rygbi Ulster wedi cael eu diswyddo.

Daeth y newyddion am Paddy Jackson a Stuart Olding mewn datganiad gan Undeb Rygbi Iwerddon heddiw.

Cafwyd trafodaethau ynghylch cytundebau’r ddau yn dilyn ymchwiliad i ymddygiad rhywiol y ddau.

Daeth y rheithgor yn Llys y Goron Belfast i benderfyniad unfrydol nad oedden nhw’n euog o dreisio, a bod Paddy Jackson hefyd yn ddieuog o ymosod yn rhywiol ar ddynes ar ôl noson allan.

Cafwyd dau ddyn arall yn ddieuog o gyhuddiadau mewn perthynas â’r digwyddiad.

Ymchwiliad

Ond mae ymchwiliad gan ranbarth rygbi Ulster ac Undeb Rygbi Iwerddon wedi canolbwyntio ar sgwrs WhatsApp sy’n egluro rhan y ddau chwaraewr yn y digwyddiad.

Roedd nifer o noddwyr Ulster wedi mynegi barn am enw da’r rhanbarth yn dilyn yr achos.

Aeth tua 250 o bobol i stadiwm Ulster i brotestio nos Wener, wrth i’r tîm herio’r Gweilch, gan feirniadu agwedd chwaraewyr rygbi at fenywod ar y cyfan.

Roedd hysbyseb yn y papurau newydd yr wythnos ddiwethaf yn galw am ddiswyddo’r ddau chwaraewr, ond fe gyhoeddodd cefnogwyr y ddau chwaraewyr hysbyseb arall yn galw am eu cefnogi nhw.

Mae miloedd o bobol hefyd wedi llofnodi deisebau o blaid ac yn erbyn y ddau.

Datganiad

Mewn datganiad, dywedodd Undeb Rygbi Iwerddon a rhanbarth Ulster: “Yn dilyn adolygiad a gafodd ei gynnal yn sgil yr achos llys diweddar, mae Undeb Rygbi Iwerddon a Rygbi Ulster wedi diddymu cytundebau Patrick Jackson a Stuart Olding ar unwaith.

 

“Wrth ddod i’r penderfyniad hwn, mae Undeb Rygbi Iwerddon a Rygbi Ulster yn cydnabod ein cyfrifoldeb ac ymrwymiad i werthoedd craidd y gêm: Parch, Cynhwysiant a Gonestrwydd.

“Cytunwyd, fel rhan o’r ymroddiad hwn, i gynnal adolygiad trylwyr o strwythur a rhaglenni addysg cyfredol o fewn y gêm yn Iwerddon er mwyn sicrhau bod pwysigrwydd y gwerthoedd craidd hyn yn cael ei ddeall, ei gefnogi a’i arfer ar bob lefel o’r gêm.”

Ymateb

Dywedodd Paddy Jackson mewn datganiad ei fod e “wedi siomi’n fawr” gan y penderfyniad.

Ond ychwanegodd: “Fodd bynnag, rwy’n cydnabod fod fy ymddygiad ymhell o’r gwerthoedd sy’n cael eu disgwyl gen i fel chwaraewr rhyngwladol, fel model rôl ac fel mab a brawd. Mae’n wirioneddol ddrwg gen i.”

 

Dywedodd mai ei “uchelgais” er pan oedd e’n ifanc oedd cynrychioli Ulster ac Iwerddon, a’i fod yn “eithriadol o falch a breintiedig” o fod wedi gwneud hynny.

Ond dywedodd ei fod yn “llawn tristwch ac yn difaru” ei weithredoedd.