Prydain, ac nid yr Unol Daleithiau, ddylai fod yn gyfrifol am bolisi tramor Prydain, yn ôl Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon.

Roedd hi’n ymateb i benderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump i gynnal cyrchoedd awyr tros Syria mewn ymateb i ymosodiad cemegol.

Roedd y weithred yn Syria yn ganlyniad cydweithio rhwng yr Unol Daleithiau, Prydain a Ffrainc ac fe ddaeth ar ddiwedd wythnos pan fo Donald Trump wedi bod yn bygwth gweithredu.

Mae Nicola Sturgeon wedi beirniadu’r defnydd honedig o arfau cemegol yn y wlad, ond mae hi’n dweud bod gweithredu o’r awyr yn creu “perygl a allai gynyddu”.

Dywedodd ar wefan gymdeithasol Twitter bod ei meddyliau gyda’r milwyr oedd yn cynnal y cyrchoedd, oedd wedi targedu nifer o ganolfannau arfau Syria.

Beirniadu Theresa May

Dywedodd Nicola Sturgeon fod gweithredoedd Syria yn “frawychus”, ond mae hi wedi cyhuddo Prif Weinidog Prydain, Theresa May o fethu ag ateb cwestiynau am y sefyllfa.

Mae hi wedi cwestiynu sut fydd gweithredu’n filwrol “yn dod â heddwch yn y tymor hir”.

“Dydi cyrchoedd awyr ddim wedi datrys y sefyllfa yn Syria hyd yn hyn – does dim byd dw i wedi ei glywed yn fy narbwyllo i y byddan nhw nawr.

“Rhaid mynd ar drywydd strategaeth ryngwladol ar gyfer heddwch – nid cwrs sydd mewn perygl o gynyddu.

“Y Senedd, ac nid Arlywydd yr Unol Dalethiau, ddylai osod polisi tramor y Deyrnas Unedig.”