Mae un o gyn weinidogion Llywodraeth Catalwnia yn ymladd achos yn yr Alban yn erbyn cais i’w hanfon i Sbaen i wynebu achos llys am ei rhan yn y bleidlais annibyniaeth.

Roedd y cam cynta’r achos yn erbyn Clara Ponsati yn digwydd heddiw yng Nghaeredin wrth i Lywodraeth Sbaen geisio’i chyhuddo o wrthryfel treisgar a chamddefnyddio arian cyhoeddus.

Yn ôl ei chyfreithiwr, Aamer Anwar, mae hi’n gwadu’r cyhuddiadau’n llwyr – fe aillai wynebu cyfanswm o hyd at 33 o flynyddoedd o garchar pe bai llys yn Sbaen yn p[enderfynu ei bod yn euog.

“Doedd gwarantau estraddodi Ewropeaidd erioed wedi eu bwriadu i fod yn arfau ar gyfer gormes wleidyddol,” meddai.

Cefnogwyr

Roedd criw o gefnogwyr y tu allan i’r llys wrth i Clara Ponsati gyrraedd – ers i Lywodraeth Catalwnia gael ei ddileu mae wedi bod yn Athro Economeg ym Mhrifysgol St Andrews ger Caeredin.

Yn ystod y gwrandawiad byr, fe ddywedodd bargyfreithiwr y cyn-Weinidog Addysg fod penderfyniad gwleidyddol yn cael ei guddio dan eiriau cyfreithiol.

Fe ddywedodd hefyd fod gwaith mawr i’w wneud i baratoi’r achos ac fe fydd disgwyl iddo gyflwyno amlinell o hwnnw ymhen mis.