Fe fydd Prif Weinidog Prydain yn cynnal cyfarfod arbennig o’r Cabinet heddiw i drafod y posibilrwydd o ymuno gyda’r Unol Daleithiau mewn ymosodiad ar Syria.

Mae llefarwyr yn Downing Street wedi gwrthod cadarnhau bod Theresa May yn ystyried gweithredu’n filwrol heb bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin.

Arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, yw un o’r gwleidyddion amlwg sydd wedi mynnu bod hynny’n digwydd ond mae aelodau seneddol ar wyliau yr wythnos hon.

Osgoi ateb

Ar ymweliad â Birmingham ddoe, roedd y Prif Weinidog wedi osgoi ateb a fyddai hi’n caniatáu ymosodiad heb bleidlais ond y gred yw ei bod yn dod dan bwysau o gyfeiriad Washington i weithredu.

Yn ôl llefarwyr Donald Trump yno, mae pob opsiwn yn cael ei ystyried ond fod yr Arlywydd yn dal Syria a’i chefnogwyr – gan gynnwys Rwsia – yn gyfrifol am yr ymosodiad cemegol yn nhref Douma.

Mae cefnogwyr cyrch yn dal i ddweud bod Tŷ’r Cyffredin wedi gwneud camgymeriad trwy wrthod ymosod ar Syria yn dilyn ymosodiad cemegol arall yn 2013.