Mae cyn-offeiriad o’r Alban wedi’i garcharu am naw mlynedd am gam-drin plant yn rhywiol.

Roedd Francis Paul Moore, 82, wedi ymosod ar dri bachgen yn rhywiol rhwng 1977 ac 1981, gyda’r ieuengaf yn bump oed.

Gweision allor oedd dau o’r plant, ac mewn Ysgol Gynradd y cyflawnwyd yr ymosodiad ar y trydydd bachgen.

Yn ogystal, mi ymosododd offeiriad dan hyfforddiant rhwng 1995 ac 1996 yn Prestwick.

Derbyniodd ei ddedfryd yn Llys y Goron Glasgow ddydd Mercher (Ebrill 11), a bydd ei enw’n cael ei roi ar y gofrestr o droseddwyr rhyw.