Fe fydd yr asiantaeth cudd-wybodaeth, GCHQ, yn agor canolfan newydd ym Manceinion, wrth i’r gwaith o ymladd brawychiaeth a bygythiadau eraill yr oes ddigidol fagu traed.

Mae GCHQ, sy’n cael ei nabod fel ‘y ganolfan glustfeinio’ wedi cyhoeddi y bydd y ganolfan yn agor yn ddiweddarach eleni, gan addo y bydd “wrth galon diogelwch y genedl”.

“Fe fydd y ganolfan yn creu cannoedd o swyddi,” meddai cyfarwyddwr GCHQ, Jeremy Flemming. “Ein nod ydi cadw’r genedl yn ddiogel yn wyneb pob math o fygythiadau.

“Fe fydd y ganolfan yn lle fydd yn dod ag arbenigedd nifer fawr o bobol ynghyd,” meddai wedyn. “Fe fydd penodi pwll o bobol dalentog yn allweddol ar gyfer ein llwyddiant.”

Yn ogystal â’r pencadlys yn Cheltenham, mae gan GCHQ hefyd swyddfeydd yn Bude yng Nghernyw ac yn Scarborough yn Swydd Efrog ar hyn o bryd.

Mae GCHQ yn cyflogi mwy na 6,000 o bobol, ac yn gweithio ochr yn ochr ag MI5 ac MI6.