Mae aelod o Gabinet yr wrthblaid yn San Steffan, a ddisgrifiodd Gytundeb Dydd Gwener y Groglith fel “siboleth”, wedi ymddiheuro am ei sylwadau.

Mewn recordiad o ddigwyddiad ym Mrwsel fis diwethaf a gafodd ei ryddhau gan y wefan, The Red Roar, mae Barry Gardiner i’w glywed yn dweud fod pobol yn ddiweddar wedi “gorliwio” y ddadl ynghylch y ffin galed rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth, ynghyd â’r angen am Gytundeb Dydd Gwener y Groglith.

Ychwanegodd fod hyn oherwydd amcanion economaidd Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon, sydd ddim am weld ffin galed yn dychwelyd rhwng y gogledd a’r de yn sgil Brexit.

A’r gair a ddefnyddiodd i ddisgrifio’r cytundeb, a gafodd ei lofnodi union ugain mlynedd yn ôl i eleni, oedd “siboleth” – hen air Hebraeg am ddefod sydd bellach yn amherthnasol.

Ymddiheuro

Ers i’r sylwadau hyn ddod i’r golwg, mae Barry Gardiner, Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar Fasnach Ryngwladol, wedi rhyddhau datganiad yn “ymddiheuro” am yr hyn a ddywedodd.

“Mae Cytundeb Dydd Gwener y Groglith yn rhan bwysig ac hanfodol o’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon,” meddai, “ac mae wedi bod yn ganolog i’r dau ddegawd o heddwch y mae wedi’i greu.

“Mae’r Blaid Lafur yn hollol ymrwymedig i’r cytundeb ac yn gwrthwynebu’r posibilrwydd y byddai ffin galed rhwng y gogledd a’r de yn dychwelyd.

“Dw i’n hynod o sori os yw fy sylwadau anffurfiol mewn cyfarfod fis diwethaf wedi arwain at unrhyw gamddeall ar y pwynt hwnnw…”