Mae’r heddlu yn parhau i chwilio am leidr yn dilyn lladrad yn nhŷ pensiynwr yn Llundain, lle cafodd lleidr arall ei ladd.

Yn ôl Scotland Yard, maen nhw’n dal i chwilio am Billy Jevees, 28 oed, yn dilyn y lladrad yn South Park Crescent, Hither Green yn ne-ddwyrain Llundain, am tua 12:45yb ar Ebrill 4.

Fe gafodd Richard Osborn Brooks, 78 oed, ei arestio yn wreiddiol ar amheuaeth o lofruddio’r lleidr Henry Vincent, 37 oed, a fu farw o ganlyniad i gythrwfl yng nghegin y tŷ. Ond mae bellach wedi’i ryddhau heb gyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae’r ail leidr, a ddihangodd yn fuan wedi’r digwyddiad, heb gael ei ddal eto.

Mae’r heddlu hefyd yn apelio am wybodaeth ynglŷn â’i fan, sef Vauxhall Atsra gwyn, a gafodd ei ddefnyddio yn y dyddiau yn arwain at y lladrad, ac ar ôl hynny.

Fe gafodd y fan ei ddarganfod wedi’i llosgi ar nos Sadwrn, Ebrill 7, yn Orpington, Swydd Caint.