Mae dyn 26 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, wedi i wraig gael ei thrywanu y tu allan i eglwys.

Mae’r ddynes 30 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol iawrn yn yr ysbyty.

Mae Heddlu’r West Midlands wedi cadarnhau i’r ymosodiad ddigwydd y tu allan i Eglwys St Margaret yn Coventry ddoe (dydd Sul, Ebrill 8).

Fe ddaethpwyd o hyd iddi am 3.15yb wedi’i thrywanu yn ardal ei stumog.

Mae’r dyn 26 oed wedi’i gludo i’r ddalfa ar amheuaeth o geisio llofruddio’r ddynes, ac mae’n cael ei holi ar hyn o bryd mewn swyddfa heddlu yn y ddinas.