Mae’r heddlu wedi saethu dyn yn farw yn Llundain, wedi iddo honni fod ganddo ddryll.

Fe gafodd heddlu arfog eu galw i gyfeiriad yn Romford yn nwyrain y ddinas yn ystod oriau mân ddydd Llun. Roedd galwad wedi dod am 3.50yb gan ddyn yn bygwth ac yn honni bod ganddo arf.

Am 4.45yb, fe gafodd dyn yn ei 40au ei saethu gan yr heddlu.

Fe gafodd ei gyhoeddi’n farw tua hanner awr yn ddiweddarach.

Mae’r GyfarwyddiaethSafonau Proffesiynol wedi cael gwybod am y digwyddiad, ac mae’r achos wedi’i gyfeirio i Swyddfa Annibynnol tros Ymddygiad yr Heddlu.