Mae disgwyl i ddefnyddwyr Facebook gael gwybod heddiw os ydi eu manylion personol nhw wedi cael eu rhannu ag eraill, mewn neges gan y cwmni.

Gan ddechrau ddydd Llun (Ebrill 9), bydd y cwmni yn mynd ati i hysbysu 87 miliwn o ddefnyddwyr y wefan sydd yng nghlwm â sgandal data, yn ddiarwybod.

Er bod y mwyafrif o bobol sydd wedi cael eu heffeithio yn byw yn yr Unol Daleithiau, mae dros filiwn o bobol yng ngwledydd Prydain sydd ynghlwm â’r sgandal, meddai’r cwmni.

Mae’r Prif Weithredwr, Mark Zuckerberg, wedi cydnabod ei fod wedi gwneud “camgymeriad anferth” trwy fethu â diogelu’r data, a bydd yn ymddangos gerbron Cyngres America yn fuan.

Beth yw’r sgandal?

Am gyfnod, mi roedd modd i bobol â chyfrif Facebook gymryd rhan mewn cwis personoliaeth ar y wefan, a oedd yn casglu data amdanyn nhw.

Ond, bellach mae wedi dod i’r amlwg bod y cwis yma wedi casglu manylion personol am bobol nad oedd wedi cymryd rhan, a heb eu caniatâd.

Yn ogystal, mae’n ymddangos bod y wybodaeth yma wedi’i rhannu â chwmni o’r enw Cambridge Analytica, a’i defnyddio ganddyn nhw i ddylanwadu ar bleidleisiau democrataidd.