Mae angen sylweddoli beth sydd yn y fantol i Iwerddon wrth drafod cytundeb Brexit, yn ôl cadeirydd Cytundeb Gwener y Groglith Iwerddon, George Mitchell.

Dywedodd y llysgennad Americanaidd wrth raglen Andrew Marr y BBC fod angen i Brif Weinidog Prydain, Theresa May a Taoiseach Iwerddon, Leo Varadkar gofio rhan Iwerddon yn y trafodaethau er mwyn cynnal yr heddwch yno, a bod mater y ffiniau’n ganolog i hynny.

“Yr hyn fyddwn i’n eu hannog nhw i’w wneud yw cydnabod beth sydd yn y fantol yma,” meddai.

“Mater yw hyn o ddyfodol eu heconomi, y posibilrwydd o ailddechrau’r gwrthdaro neu ddychwelyd i amser nad yw unrhyw un eisiau dychwelyd iddo ac eithrio carfan fechan iawn ar y ddwy ochr.”

Dywedodd fod hynny’n golygu bod angen “cyfaddawd derbyniol”.

Cytundeb Gwener y Groglith yn y ffordd?

Ond mae George Mitchell yn anghytuno fod Cytundeb Gwener y Groglith yn amharu ar gynnydd gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon.

“Dw i ddim yn cytuno gyda’r dadansoddiad hwnnw,” meddai. “Dw i’n credu bod pobol sy’n ategu’r lein yna’n poeni’n bennaf am ddadl Brexit yn y DU ac yn defnyddio mater Gogledd Iwerddon yn rhan o’r ddadl honno.”

Ar ôl Brexit, fe fydd y ffin rhwng Gweriniaeth a Gogledd Iwerddon yn ffin rhwng gwlad o fewn yr Undeb Ewropeaidd a gwlad ar y tu allan.

Ychwanegodd George Mitchell: “Dw i’n gobeithio eu bod nhw’n dod o hyd i ffordd o ddatrys y peth sy’n cynnal y ffin yn ei ffurf bresennol oherwydd fe fu’n ffactor pwysig wrth leihau ystrydebau neu neilltuo fu’n bodoli rhwng Gogledd Iwerddon ac Iwerddon yn y gorffennol, pan na fyddai pobol oedd yn byw yn agos i’r ffin fyth yn ei chroesi.”

Trafodaethau

Mae disgwyl i’r trafodaethau barhau ym Mrwsel yr wythnos hon ac mae llysgennad Iwerddon yn y DU, Adrian O’Neill yn mynnu na fydd Brexit caled yn mynd rhagddo.

Ychwanegodd: “Rhaid i ni weithio drwy hyn i gyd i gyrraedd y cyrchfan ry’n ni i gyd ei eisiau.”

Yn ôl arweinydd Sinn Fein, Mary Lou McDonald, doedd Gogledd Iwerddon ddim wedi cytuno i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac y gallai Brexit “chwarae cast gyda chynnydd y cafwyd brwydr galed amdani dros 20 mlynedd”.

Ychwanegodd fod Cytundeb Gwener y Groglith “yn sylfaen ar gyfer Iwerddon newydd y mae’n rhaid i ni ei hadeiladu gyda’n gilydd.”