Bydd ymgyrchwyr yn ymgynnull ger pencadlys y Blaid Lafur brynhawn dydd Sul, gan alw ar y blaid i fynd i’r afael â gwrth-semitiaeth.

Daw’r brotest wedi i arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn, gydnabod bod ei blaid wedi bod yn “rhy araf” wrth ddelio ag achosion.

Mae hefyd wedi ymddiheuro am y “dolur” sydd wedi’i achosi, ac yn mynnu ei fod wedi “gwrthwynebu gwrth-semitiaeth yn filwriaethus” trwy gydol ei oes.

Mudiad

Mudiad yr Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-Semitiaeth sydd wedi trefnu’r brotest, ac mi fydd yn cael ei chynnal ger pencadlys Llafur yng nghanol Llundain, brynhawn ddydd Sul.

Yn ôl Cadeirydd y mudiad “mae’n rhaid i Lafur arwain trwy osod esiampl” ac maen nhw wedi cyhuddo Jeremy Corbyn o “bardduo enw’r blaid”.