Mi fydd treth newydd ar ddiodydd meddal llawn siwgr yn dod i rym yng ngwledydd Prydain heddiw.

Y nod yw mynd i’r afael a gordewdra mewn plant, ac o heddiw ymlaen (dydd Gwener, Ebrill 6) fe fydd rhaid i gwmnïau dalu treth ar ddiodydd sy’n cynnwys lefelau uchel o siwgr.

Mi fydd hyn golygu y bydd yn rhaid i bobol dalu hyd at 18c neu 24c yn fwy am litr o ddiod feddal, er bod hynny’n dibynnu ar faint o siwgr sydd yn y ddiod honno.

Fe all pris potel 1.75 litr o cola godi o tua 25%.

Croesawu’r dreth

Mae nifer o weinidogion ac ymgyrchwyr yn barod yn credu bod y dreth yn llwyddiant, gyda nifer o gwmnïau ar drothwy ei chyflwyno eisoes wedi lleihau’r siwgr sydd yn eu cynnyrch.

Er enghraifft, mae cwmnïau megis Fanta, Ribena a Lucozade eisoes wedi cymryd y cam hwn, er nad yw Coca Cola wedi gwneud yr un peth.

Barn gymysglyd

Ond yn ôl arolwg sydd wedi’i gynnal gan Mintel, fe fydd treth ar ddiodydd a bwydydd sothach yn annog dim ond llai na hanner o bobol yng ngwledydd Prydain i dorri lawr ar brynu cynnyrch o’r fath.

Mae’r arolwg yn dangos y byddai’r dreth siwgr newydd yn cael effaith ar ddim ond 47% o bobol, gyda’r ffigwr hwnnw yn codi i 53% i bobol rhwng 16 a 34 oed.

Roedd 75% o’r rheiny a wnaeth gymryd rhan yn yr arolwg wedyn yn dweud y byddai cyflwyno gwybodaeth faetheg ar becynnau cynnyrch yn fwy effeithlon.

Roedd tua’r un nifer (73%) hefyd yn dweud bod cyflwyno system lle mae pobol yn cael eu gwobrwyo am fwyta’n iach, megis pwyntiau yn yr archfarchnad, yn gweithio’n well.

Mae’r arolwg hefyd yn dweud bod 56% o bobol yng ngwledydd Prydain yn ffafrio mwy o reolaeth ar sut mae cynnyrch sothach yn cael eu marchnata.