Mae Rwsia wedi rhybuddio bod Prydain “yn chwarae â thân” wrth gyhuddo Moscow o fod yn gyfrifol am yr achos o wenwyno yn Salisbury.

Roedd y ddwy wlad wedi gwrthdaro yn ystod cyfarfod o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd.

Roedd llysgennad Rwsia i’r Cenhedloedd Unedig, Vasily Nebenzya, wedi dadlau nad oedd sail i honiad y Deyrnas Unedig mai nwy nerfol Novichok o Rwsia gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad

Roedd Moscow wedi galw’r cyfarfod o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig er mwyn trafod y digwyddiad. Mae Moscow yn parhau i fynnu nad oedd yn gysylltiedig â’r ymosodiad.

Yn y cyfamser fe wnaeth Yulia Skripal ddatganiad drwy’r heddlu i ddweud ei bod hi a’i thad, y cyn-ysbïwr, Sergei Skripal, yn gwella yn dilyn yr ymosodiad ar 4 Mawrth.