Mae merch cyn-ysbïwr agafodd ei gwenwyno yn Salisbury fis diwethaf, wedi dweud ei bod yn “cryfhau bob dydd”.

Mae Yulia Skripal a’i thad, Sergei Skripal, wedi bod yn yr ysbyty ers yr ymosodiad arnyn nhw ar Fawrth 4, a dyma’r sylw cyhoeddus cyntaf gan y pâr.

Yn ôl Llywodraeth gwledydd Prydain, cemegyn o Rwsia wnaeth gael ei ddefnyddio yn yr ymosodiad, ond mae Moscow wedi gwrthod unrhyw gysylltiad â’r digwyddiad.

Bellach mae Rwsia wedi galw am gyfarfod rhyngwladol i drafod y mater, ac wedi galw ar wledydd Prydain i roddi fisas i deuluoedd y cleifion.

Diolch

“Mi ddeffrais dros wythnos yn ôl a dw i’n falch i ddweud fy mod yn cryfhau bob dydd,” meddai Yulia Skripal gan gyfeirio at ei chyfnod mewn coma.

“Dw i’n ddiolchgar am y diddordeb ynof, ac am y negeseuon o ewyllys da dw i wedi eu derbyn,” meddai wedyn, gan ddiolch pobol Salisbury am eu cymorth.

Daw’r datganiad wedi i gyfyngau Rwsia adrodd bod y ddynes wedi cysylltu â’i chyfnither, Viktoria, i ddweud ei bod hi a’i thad yn gwella.