Mae  bachgen 15 oed yn parhau yn y ddalfa, ar ôl iddo gael ei gyhuddo o drywanu merch mewn rhes ginio yn yr ysgol.

Fe ymddangosodd y bachgen gerbron Llys Ieuenctid Southhampton ar amheuaeth o fod ym meddiant arf peryglus, sef cyllell gegin pedair fodfedd o hyd, ynghyd ag achosi niwed corfforol difrifol.

Fe gafodd ei arestio yn dilyn y digwyddiad yn Ysgol Southampton ar Fawrth 26.

Cafodd y ferch ei chludo i’r ysbyty er mwyn derbyn triniaeth ar gyfer anaf a oedd yn cael ei ddisgrifio gan yr heddlu ar y pryd yn un nad oedd yn “ddifrifol”.

Ni blediodd y bachgen i unrhyw gyhuddiadau, ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Southampton ar Ebrill 20.