Mae cyfarfod brys wedi ei drefnu yn llys yr Hâg heddiw (dydd Mercher, Ebrill 4), er mwyn trafod cwynion Rwsia ynglŷn â’r honiadau mai nhw oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Salisbury ddechrau mis Mawrth.

Rwsia sydd wedi galw’r cyfarfod brys o’r OPCW (Sefydliad er mwyn Atal Arfau Cemegol), a hynny er mwyn galw ar Lywodraeth Prydain i gyflwyno tystiolaeth mai Rwsia a wnaeth wenwyno’r cyn-ysbïwr o’r wlad, Sergei Skripal, a’i ferch, Yulia, yn Salisbury ar Fawrth 4.

Daw hyn ddiwrnod ar ôl i ganolfan ymchwil y fyddin yn Porton Down gyhoeddi eu bod nhw wedi methu ag olrhain ffynhonnell y nwy nerfol, sy’n perthyn i’r teulu Novichok a gafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad.

Mae Rwsia wedi gwadu’r cyhuddiadau yn eu herbyn, ac wedi mynnu ei bod yn rhan o’r ymchwiliad i’r ymosodiad.

Ond mae Llywodraeth Prydain wedi cyhuddo Rwsia o geisio “tanseilio” gwaith y OPCW, ac wedi disgrifio eu galwad am gyfarfod brys yn “dacteg i dynnu sylw”.