Mae bachgen 16 oed wedi marw ar ôl cael ei saethu yn Llundain ddechrau’r wythnos.

Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod y bachgen wedi marw yn yr ysbyty, a hynny ar ôl cael ei saethu yn y wyneb yn Walthamstow yn nwyrain Llundain nos Lun (Ebrill 2).

Daw hyn yn sgil marwolaeth Tansesha Melbourne, 17 oed, a gafodd ei saethu tua hanner awr ynghynt mewn digwyddiad ar wahân yn Tottenham, sydd ond rhyw dair milltir o Walthamstow.

Mae’r heddlu’n credu ei bod hi wedi marw o ganlyniad i ryfel gang.

Mae marwolaeth y bachgen yn golygu bod cyfanswm o 48 o bobol wedi cael eu llofruddio yn Llundain eleni.

Mae’r ffigwr hwn yn cadarnhau’r pryder yn y ddinas ynglŷn â’r cynnydd mewn troseddau treisgar.