chronfa £500m ar gyfer ardaloedd tlawd yn dod i ben wedi Brexit, mae Aelodau Seneddol wedi lleisio eu pryderon am “oblygiadau trychinebus” hynny.

Ar hyn o bryd, mae Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn darparu arian i bobol mewn ardaloedd tlawd, gyda’r nod o’u helpu i gael swyddi.

Mewn adroddiad, mae pwyllgor yn San Steffan wedi nodi y bydd yn rhaid i Lywodraeth Prydain gamu i’r adwy yn sgil Brexit, er mwyn diogelu parhad y rhaglen hon.  

Daw galwad y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau mewn adroddiad a gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 3).

“Creu olynydd”

“Mae gennym gyfle hanesyddol nawr i greu olynydd i Gronfa Gymdeithasol Ewrop,” meddai Frank Field, Cadeirydd y Pwyllgor.

“Rhaid i’r Llywodraeth weithredu yn gyflym… Dyma gyfle i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r diffyg sgiliau.”

Gan ymateb i’r pryderon, mae Llywodraeth Prydain yn dweud y byddan nhw’n sefydlu Cronfa Ffyniant i Bawb, fydd â rôl debyg i’r gronfa Ewropeaidd.