Mae Llywodraeth Rwsia wedi gofyn i Gyngor y OPCW (y Sefydliad er mwyn Atal Arfau Cemegol) am gyfarfod arbennig yn yr Hâg yfory (dydd Mercher, Ebrill 4), er mwyn trafod honiadau’r Deyrnas Unedig ynglŷn â rhan Rwsia yn yr ymosodiad yn Salisbury fis diwethaf.

Daw’r cadarnhad hwn gan lysgennad Rwsia i Iwerddon, Yury Filatov, a nod y cyfarfod yw galw ar Lywodraeth Prydain i ddarparu unrhyw dystiolaeth sydd gyda nhw ynglŷn â’r ffaith mai Rwsia oedd yn gyfrifol am wenwyno cyn-ysbïwr o Rwsia, Sergei Skripal a’i ferch, Yulia, ar Fawrth 4.

Ychwanega fod Llywodraeth Prydain wedi rhoi’r bai am yr ymosodiad ar ei wlad heb gyflwyno unrhyw dystiolaeth, a bod angen iddyn nhw “ateb cwestiynau” ynglŷn â hyn.

“Os ydyn nhw’n penderfynu eu hanwybyddu,” meddai Yruy Filatov, “mae yna ddigon o le i ddod i’r casgliad ein bod yn deilio â phryfociad enfawr sydd wedi’i drefnu gan Lundain er mwyn pardduo Rwsia.

“Dydyn ni ddim yn derbyn yr agwedd anghyfrifol ac amhriodol hon ar ran Llywodraeth Prydain. Mae’n rhaid iddyn nhw fod yn atebol i hynny.”

Ers yr ymosodiad ddechrau’r mis diwethaf, mae dros 100 o ddiplomyddion o Rwsia wedi cael eu diarddel o wledydd ledled y byd.