Mae deg o bobol, yn gynnwys wyth o blant, wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn digwyddiad mewn fflat yn Glasgow yn ystod oriau mân bore heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 3).

Fe gafodd yr heddlu eu galw i fflat yn Heol Raithburn, Castlemill am 4:40yb, gyda chwech ambiwlans yn bresennol ar gyfer cludo dwy ddynes ac wyth o blant i Ysbyty Athrofaol y Frenhines Elizabeth.

Does dim cadarnhad ynglŷn â natur yr anafiadau, na faint o’r unigolion sydd wedi’u hanafu, ond mae lle i gredu bod nifer o’r plant wedi cael eu cludo i’r ysbyty fel mater o ragofal.

Mae’r heddlu’n parhau i gynnal ymchwiliad ar y mater.