Fe fydd Llywodraeth San Steffan yn cyhoeddi gwaharddiad ar werthu nwyddau ifori.

Yn ôl yr ysgrifennydd dros yr amgylchedd, Michael Gove, fe fydd y cam hwn ymhlith y “mwyaf cadarn yn y byd”, ac fe fydd yn fodd o “ddiogelu eliffantod am y cenedlaethau i ddod”

Fe fydd yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng cyfres o fesurau, gan wahardd gwerthu nwyddau o bob oedran, ac nid y rheiny sydd wedi cael eu cynhyrchu ar ôl dyddiad penodol yn unig.

Daw’r cyhoeddiad hwn gan y Llywodraeth yn dilyn ymgynghoriad ar y mater, lle gwnaeth 88% o’r 70,000 o’r rheiny a gymrodd rhan ymateb o blaid y gwaharddiad.

“Ni ddylai ifori  gael ei ddefnyddio fel nwydd ar gyfer elw ariannol neu fel statws symbolaidd,” meddai Michael Gove, “felly rydyn ni’n cyflwyno un o’r gwaharddiadau mwyaf cadarn yn byd ar werthu ifori er mwyn diogelu eliffantod ar gyfer y cenedlaethau i ddod.”

Fe fydd y rheiny sy’n cael eu canfod yn euog o werthu ifori yn dilyn y gwaharddiad yn cael dirwy neu hyd at bum mlynedd yn y carchar.

Mae ymgyrchwyr dros ddiogelu bywyd gwyllt yn credu bod tua 20,000 o eliffantod yn cael eu lladd bob blwyddyn ar gyfer eu hifori, ac y byddai lleihau’r angen rhyngwladol amdano yn fodd o leihau’r nifer hwn.