Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, o dan y lach unwaith eto yn dilyn honiadau ei fod wedi mynd i gyfarfod o grŵp asgell-chwith sydd wedi condemnio sefydliadau Iddewig yn ddiweddar.

Yn ôl y wefan Guido Fawkes, roedd Jeremy Corbyn wedi mynd i gyfarfod grŵp asgell-chwith o‘r enw Jewdas, sydd wedi beirniadu rhai o brif sefydliadau Iddewig yn ddiweddar am brotestio yn erbyn gwrth-semitiaeth honedig y Blaid Lafur.

Mewn datganiad yr wythnos ddiwethaf, fe gyhuddodd y grŵp sefydliadau megis y Bwrdd Iddewig o Ddirprwyon, Cyngor Arweinwyr Iddewig, a’r Mudiad Llafur Iddewig o “chwarae gêm beryglus gyda bywydau pobol.”

Dywedon nhw hefyd fod yr honiadau sy’n cysylltu Jeremy Corbyn gyda gwrth-semitiaeth yn waith y rheiny sy’n “ffyddlon” i’r “blaid Geidwadol ac asgell-dde y Blaid Lafur.”

Mae llefarydd ar ran Jeremy Corbyn wedi dweud bod yr arweinydd yn bresennol yn y cyfarfod yn “rhinwedd bersonol”, wrth iddo ddynodi dathliadau gŵyl Seder ddoe (dydd Llun, Ebrill 2).