Mae gweinidog tramor Rwsia wedi cyhuddo’r Deyrnas Unedig o “chwarae gemau plant” yn dilyn ei honiadau bod Moscow ar fai am wenwyno’r cyn-ysbïwr Sergei Skripal a’i ferch.

Roedd Sergey Lavrov yn awgrymu bod gwasanaethau cudd-wybodaeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn gysylltiedig â’r ymosodiad yn Salisbury ar 4 Mawrth. Ychwanegodd y gallai’r digwyddiad fod o “fudd” i Lywodraeth Prydain er mwyn tynnu sylw oddi ar Brexit.

A dywedodd ei fod yn “warthus” bod Prydain wedi methu rhoi mynediad consylaidd i Yulia Skripal, 33, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod ei chyflwr yn gwella.

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud mai’r unig esboniad posib am yr ymosodiad yw bod Rwsia wedi bod yn gysylltiedig â’r digwyddiad. Mae’r ymosodiad wedi arwain at nifer o wledydd yn diarddel mwy na 100 o ddiplomyddion o Rwsia.

Yn ôl asiantaeth newyddion Rwsia, Tass, mae Sergey Lavrov wedi cyhuddo Prydain a’r Unol Daleithiau o ddweud “celwydd” gan fynnu nad oedd gan Rwsia gymhelliad dros ymosod ar Sergei Skripal.