Mae mwy na hanner o gartrefi yng ngwledydd Prydain wedi cael problemau gyda’u gwasanaeth band eang yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ol Which?.

Mae’r broblem fwya’ gyffredin a gafodd ei chofnodi gan 56% o gwsmeriaid yn cynnwys cynyddu prisiau, a chyflymder band eang gwael.

Roedd cylchgrawn Which? wedi holi mwy na 1,900 o gwsmeriaid ar draws 12 o ddarparwyr ar gyfer yr arolwg diweddaraf.

Cwsmeriaid Virgin Media oedd y rhai oedd yn fwyaf tebygol o gael problemau band eang, gyda 73% yn cofnodi anawsterau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn bennaf oherwydd cynnydd mewn prisiau.

Roedd 62% o gwsmeriaid Sky wedi cofnodi problem, a 61% o gwsmeriaid BT, yn ol Which?.

Zen Internet oedd a’r nifer lleiaf o gwynion gyda 25% o gwsmeriaid yn dweud eu bod wedi cael problemau band eang.

Dywedodd llefarydd ar ran Virgin Media eu bod nhw’n gwneud popeth posib i gadw eu prisiau’n gystadleuol tra’n buddsoddi mewn gwasanaethau i gyflymu cysylltiadau band eang.