Mae merch fach ddeufis oed wedi marw ar ôl cael trawiad ar y galon ym mharc saffari’r West Midlands.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r parc yn Bewdley am oddeutu 11.30 fore heddiw, ond dydy’r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.

Mae’r teulu’n derbyn cefnogaeth gan yr heddlu.

Mae’r parc wedi dweud mewn datganiad fod eu “meddyliau gyda’r teulu”.