Fe fydd angladd yr Athro Stephen Hawking yn cael ei gynnal yng Nghaergrawnt heddiw.

Bu farw yn ei gartref yn y ddinas ar Fawrth 14 yn 76 oed, ac yntau’n dioddef o gyflwr niwronau motor er pan oedd e yn ei ugeiniau.

Fe fydd ei deulu, ffrindiau a chydweithwyr yn ymgynnull yn eglwys y brifysgol ger Coleg Gonville  a Caius, lle’r oedd yn gymrawd am 52 o flynyddoedd.

Bydd porthorion y coleg yn cludo’i arch i mewn i’r eglwys, a phob un yng ngwisg draddodiadol y coleg.

‘Diolchgarwch’

Mewn datganiad, dywedodd ei deulu eu bod nhw’n dymuno mynegi eu “diolchgarwch” am yr holl deyrngedau.

“Roedd ein tad yn byw ac yn gweithio yng Nghaergrawnt am fwy na 50 o flynyddoedd. Roedd yn rhan annatod ac adnabyddus o’r brifysgol a’r ddinas.

“Am y rheswm hwn, rydym wedi penderfynu cynnal ei angladd yn y ddinas yr oedd yn ei charu gymaint ac a oedd yn ei garu yntau.”

Dywedodd y teulu y byddai’r gwasanaeth angladdol yn adlewyrchu pa mor eang oedd ei fywyd.

Bydd yn cael ei amlosgi a’i ludw’n cael eu gwasgaru yn Abaty Westminster ar Fehefin 15.

Bydd llyfr teyrngedau’n cael ei osod yn y brifysgol ac ar y we.