Mae arweinydd Llafur yn dweud ei fod yn gobeithio y bydd ei blaid yn gallu agosau at y gymuned Iddewig, wrth iddo gyfaddef bod yn rhaid i’r gwleidyddion “wneud yn well” yn y frwydr yn erbyn gwrth-Semitiaeth.

Wrth i’w blaid geisio dod i delerau â ffraeo mewnol ar y mater, mae Jeremy Corbyn yn mynnu ei fod ef ei hun yn “gyfaill” yn y frwydr yn erbyn pob math o gamdriniaeth.

Tra ei bod hi’n rhwydd i adnabod a beirniadu gwrth-Semitiaeth mewn gwledydd eraill, meddai, mae hi “weithiau’n anoddach ei weld pan mae’n digwydd yn agosaf at adref”.

Mae grwp o wleidyddion Llafur wedi bod yn ceisio annog Jeremy Corbyn i gael gwared â chyn-gadeiryddes panel anghydfod y blaid, Christine Shawcroft, oddi ar y corff rheoli. Roedd hi wedi gwrthwynebu gwahardd ymgeisydd a oedd yn cael ei gyhuddo o wrth-Semitiaeth.

“Mae’r Pasg yn adeg i ddathlu taith o ormes i ryddid,” meddai Jeremy Corbyn.

“Rydyn ni’n cofio ein holl frodyr a chwiorydd Iddewig sydd wedi brwydro yn erbyn rhagfarn ac wedi wynebu’r trais a’r lladd torfol mwyaf ofnadwy.

“Rydyn ni hefyd yn meddwl am y modd y mae gwrth-Semitiaeth ar gynnydd ar hyd a lled y byd. Yng ngwlad Pwyl… yn Ffrainc… ac yn yr Unol Daleithiau.

“Fyddwn ni, yn y mudiad Llafur, byth yn ffwrdd-â-hi ar y mater. Mae angen i ni i gyd wneud yn well. Yn y frwydr yn erbyn gwrth-Semitiaeth, rwy’n gyfaill i chi, bob amser.”