Fe fydd Iwerddon yn cynnal refferendwm ar erthylu ar Fai 25 eleni.

Fe ddaeth cadarnhad wedi i Weinidog Tai, Cynllunio a Llywodraeth Leol y llywodraeth, Eoghan Murphy, arwyddo’r cytundeb i osod dyddiad y bleidlais. Fe fydd y bwth pleidleisio yn agor am 7yb ac yn cau am 10yh.

Cyn hynny, roedd dau dŷ’r Oireachtas yn Nulyn wedi pasio’r ddeddf sy’n rhoi hawl i gynnal refferendwm ar y pwnc llosg.

Y cwestiwn fydd, a ydi’r pleidleisiwr am newid wythfed cymal Cyfansoddiad Iwerddon, sy’n nodi fod erthyliad yn anghyfreithlon oni bai am rai amgylchiadau eithriadol.

Mae dros dair miliwn o bobol yn gymwys i fwrw pleidlais.