Mae’r Arglwydd Torïaidd, Chris Patten, wedi camu i ganol y drafodaeth am ffin yn Iwerddon wedi Brexit, gan rybuddio bod yn rhaid i’r mater gael ei drin “yn ofalus iawn”, rhag i’r wlad droi’n ôl at drais.

Fe fu Chris Patten yn gadeirydd comisiwn ar blismona Gogledd Iwerddon fel rhan o’r Broses Heddwch yno yn y 1990au.

“I mi, mae’n un o’r enghreifftiau o’r pethau byrbwyll gafodd eu dweud fel rhan o’r ymgyrch i’n cael ni allan o’r Undeb Ewropeaidd, beth bynnag y gost,” meddai.

“Dw i’n teimlo’n emosiynol iawn ac yn gryf iawn am hyn.

“Dw i’n meddwl i ni wneud gwaith da ar Gytundeb Heddwch Dydd Gwener y Groglith, a dydw i ddim am ein gweld ni’n dychwelyd i’r dyddiau hynny pan oedd pobol yn cael eu saethu a’u hanafu.”