Mae ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) wedi cael dirwy o £2 miliwn yn sgil marwolaeth dau glaf bregus mewn uned gofal.
Bu farw Teresa Colvin a Connor Sparrowhawk, wrth dderbyn gofal yn uned Slade House yn Rhydychen, sef uned oedd yng ngofal Ymddiriedolaeth GIG Southern Health.
Mae’r ymddiriedolaeth wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o fethu yn eu cyfrifoldeb i ofalu am y cleifion – roedd un yn dioddef o epilepsi.
Wrth gyhoeddi’r ddedfryd yn Llys y Goron Rhydychen, dywedodd y barnwr, Mr Ustus Stuart-Smith, bod y ddirwy yn “gyfiawn ac yn gymesur” o ystyried “goblygiadau ofnadwy” y drosedd.
Y Gweithgor Iechyd a Diogelwch oedd wedi dwyn yr achos yn erbyn yr ymddiriedolaeth.
“Arfogi”
Mae’n debyg bod Connor Sparrowhawk, 18, yn epileptig a bu iddo foddi yn y bath yn 2013. Blwyddyn yn gynharach roedd Teresa Colvin wedi lladd ei hun tra’n aros yn yr un uned.
Yn dilyn y sesiwn llys, gwnaeth mam y claf, Sara Ryan, gyhuddo’r ymddiriedolaeth o ddefnyddio “triciau budr” yn dilyn y marwolaethau.
Edifarhau
Mae Prif Weithredwr yr ymddiriedolaeth, Nick Broughton – a gafodd ei benodi yn dilyn adroddiad i’r marwolaethau – wedi “ymddiheuro’n ddiamod”.
“Roedd goblygiadau difrifol i’r camgymeriadau yna,” meddai. “Ni ddylai Connor a Teresa fod wedi marw.
“Mae’r mater yn peri i mi â’r sefydliad edifarhau, a dw i wir yn ymddiheuro. Wnaethon ni fethu nhw, ac mi wnaethon ni fethu eu teuluoedd.”