Mae disgwyl i’r cyn-Brif Weinidog, Tony Blair, gynyddu’r pwysau i alw am ail refferendwm tros Brexit wrth draddodi araith yn ddiweddarach.

Bydd yn dweud bod strategaeth y Llywodraeth yn “beryglus o anghyfrifol” gan eu cyhuddo o fod yn fwriadol amwys tros y mater.

A bydd yn dweud bod gan Aelodau Seneddol gyfle i “newid trywydd y broses” trwy ddeddfu a sicrhau refferendwm ar sail y cytundeb Brexit.

Daw sylwadau Tony Blair ddyddiau’n unig wedi i’r Aelod Seneddol Llafur, Owen Smith, gael ei ddiswyddo o gabinet cysgodol Jeremy Corbyn ar ôl galw am ail refferendwm.

Dadrithio

“Mae rhai yn dweud y bydd pobol wedi’u dadrithio os na fydd Brexit yn digwydd,” bydd yn dweud. “Yn bersonol, dw i’n amau mai dyma fyddai’n digwydd yn sgil pleidlais ar y cytundeb terfynol.

“Ond hyd yn oed os ydy hynna’n wir, bydd yna ddadrith ehangach ymhlith y rhai wnaeth bleidleisio o blaid Brexit – a hynny oherwydd ofnau am ddyfodol wedi’i lywio gan globaleiddio marchnad rydd.”

Bydd yna “ddadrith ehangach” meddai oherwydd mi fyddan nhw’n sylweddoli eu bod bellach ynghlwm ag ymgais i groesawu’r ffactorau yma yn fwy.