Mae’r nifer fwyaf erioed o bobl yng ngwledydd Prydain, sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio, yn cael eu cyfeirio at gynllun gwrth-gaethwasiaeth, yn ôl adroddiad gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA).

Am y tro cyntaf y llynedd, pobl o’r Deyrnas Unedig oedd ymhlith y nifer fwyaf o’r rhai gafodd eu cyfeirio at gynllun sydd wedi cael ei sefydlu er mwyn adnabod plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n rhywiol neu ddioddef caethwasiaeth.

Yn ôl ymchwilwyr, mae’r nifer cynyddol yn bennaf oherwydd cynnydd o 66% yn nifer y plant a gafodd eu cyfeirio sy’n cael eu hecsbloetio gan gangiau cyffuriau.

Y llynedd cafodd 819 o ddinasyddion y Deyrnas Unedig eu cyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (NRM), mwy na dwbl y 326 o bobl gafodd eu cyfeirio yn 2016.