Mae dod i gytundeb ar amodau ymadawiad Prydain â’r Undeb Ewropeaidd yn “debygol iawn”, yn ôl Ysgrifennydd Brexit San Steffan, David Davis.

Dywedodd fod y trafodaethau ym Mrwsel yn mynd rhagddynt ond “na allwch chi fyth roi’r gorau i wneud trefniadau” ar gyfer sefyllfa lle na fyddai cytundeb yn y pen draw.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC fod angen “yswiriant” rhag ofn.

“Dydych chi ddim yn disgwyl i’ch tŷ losgi i lawr, mae tebygolrwydd o lai nag un mewn 100,000, ond mae gyda chi yswiriant cartref beth bynnag.”

Iwerddon

Wrth drafod ffiniau Iwerddon, dywedodd David Davis fod angen ateb masnach neu dechnolegol er mwyn osgoi gorfod rheoli’r ffiniau.

Dywedodd: “Mae gennym ni lwyth o dechnoleg newydd erbyn hyn.

“Mae ffyrdd o wneud hyn, allwch chi ddim jyst dweud ‘Dydyn ni ddim wedi gwneud hyn yn unman arall’. Dydyn ni ddim wedi ceisio ei wneud e yn unman arall.”

Gwelliannau

Dywedodd David Davis y byddai’n rhaid aros i weld beth fyddai gwelliannau’r Blaid Lafur i Fesur Brexit o safbwynt Iwerddon.

Ond dywedodd na fyddai Llywodraeth Prydain “yn dychwelyd i ffiniau’r gorffennol” ac y bydden nhw’n cadw at Gytundeb Belfast.

Fe wadodd hefyd fod Prydain yn mynd am berthynas debyg i’r hyn sydd gan Norwy â’r Undeb Ewropeaidd.